gwybodaeth

R Wort Hotel, yn Jackson, Wyoming, oedd y lle cyntaf y dechreues i chwarae sioeau rheolaidd a chael fy nhalu am wneud hynny. Flynyddoedd cyn hynny, roedd John Fahey a Leo Kottke wedi eistedd gyda’i gilydd ar yr un llwyfan, o dan yr un goleuadau, yn chwarae cerddoriaeth a fyddai’n dylanwadu ar ddegawdau o gitaryddion. Rwy’n dal i gofio sut deimlad oedd bod yn yr un lle. Roedd yn rhywbeth tebyg i gysgu gyda gwerslyfr o dan y gobennydd y noson cyn y prawf algebra - gallu drwy agosrwydd.

Roedd hynny ym 1990, ac mae pethau wedi newid tipyn er hynny. Ar ôl pum mlynedd o fyw allan o’m fan a chwarae sioeau i fyny ac i lawr gorllewin UDA a Chanada, mae fy ngwallt yn llawer byrrach a’r llinellau ar fy wyneb ychydig yn ddyfnach. Rwy’n rhiant sengl, yn gweithio ar PhD, ac rwy’n byw mewn tref yn Alaska nad oes ganddi gysylltiadau ffyrdd. Mae gen i agwedd wahanol at ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth bellach. Dydw i ddim yn recordio CDs erbyn hyn, oherwydd fy mod am gwtogi ar y gwastraff sy’n mynd i’n safleoedd tirlenwi. Dydw i ddim ychwaith yn codi tâl am fy nghaneuon fel symudiad bwriadol i ffwrdd oddi wrth wneud elw, sy’n ymddangos fel pe bai’n llywio cymaint o’n bywydau bob dydd.

Ond rydw i yn dal i’w hysgrifennu, a’u canu nhw pan fydda i’n gwneud sioe, ac rwy’n eu rhoi i bobl ar y safle hwn. Mae fy ngwaith ar gyfer fy ngradd yn mynd â mi i leoedd diddorol ar fyr rybudd ar brydiau, ac rwy’n ceisio cynllunio cyngherddau o amgylch y teithio hwnnw. Rwy’n mynd i Fairbanks ac Anchorage o bryd i’w gilydd.

Ond os nad ydych chi’n byw yn y lleoedd hynny, neu hyd yn oed os ydych chi, mae’r dudalen ‘downloads’ yn llawn o bengwiniaid bach digidol yn disgwyl am gael honcian eu ffordd ar draws y blaned, heb adael unrhyw ôl traed yn yr eira.